SL(5)259 – Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

Cefndir a Diben

 

Mae’r Gorchymyn hwn yn disodli Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy. 158)) a Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1344 (Cy. 134)). Mae'n gweithredu deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar iechyd planhigion o ran Cymru.

Cyflwyniad yw Rhan 1 ac mae’n cynnwys diffiniadau. Mae erthygl 2(5) yn darparu bod cyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd a restrir yn y ddarpariaeth honno i’w darllen fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Rhan 2 yn gymwys i blâu planhigion a deunydd perthnasol sy’n dod o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys deunydd perthnasol o drydydd gwledydd sy’n dod drwy ran arall o’r Undeb Ewropeaidd pan fo Gweinidogion Cymru wedi cytuno i gynnal gwiriadau penodol ar y deunydd hwnnw. Diffinnir “deunydd perthnasol” yn erthygl 2(1).

Mae Rhan 3 yn gymwys i blâu planhigion a deunydd perthnasol o’r Undeb Ewropeaidd (pa un a yw’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu o drydydd gwledydd). Mae erthyglau 18 i 20 yn gwahardd cyflwyno plâu planhigion a deunydd perthnasol penodol i Gymru o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd ac yn cynnwys gwaharddiadau a chyfyngiadau ar symud plâu planhigion a deunydd perthnasol a gweithgareddau eraill yng Nghymru. Mae'n ofynnol i basbort planhigion fynd gyda deunydd perthnasol penodol pan fo’n cael ei symud o fewn Cymru neu’n cael ei draddodi i ran arall o’r UE.

Mae Rhan 4 yn gosod gofyniad ar fasnachwyr planhigion i fod yn gofrestredig o ran unrhyw weithgaredd y maent yn ymgymryd ag ef ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Gorchymyn (erthyglau 25 i 28) ac yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru awdurdodi masnachwyr planhigion i ddyroddi pasbortau planhigion (erthygl 29).

Mae Rhan 5 yn cynnwys trefniadau arbennig sy’n llywodraethu deunydd perthnasol o’r Swistir.

Mae Rhan 6 yn cynnwys pwerau gorfodi cyffredinol a roddir i arolygwyr iechyd planhigion.

Mae Rhan 7 yn gosod gofynion ychwanegol mewn perthynas â rhywogaethau mochlysaidd penodol (tatws a thomatos).

Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru roi trwyddedau sy’n awdurdodi gweithgareddau a fyddai’n cael eu gwahardd gan y Gorchymyn hwn fel arall.

Mae Rhan 9 yn ei gwneud yn ofynnol hysbysu Gweinidogion Cymru neu arolygydd am blâu planhigion penodol sy’n bresennol neu yr amheuir eu bod yn bresennol yng Nghymru ac yn gwneud darpariaeth i arolygwyr ofyn am wybodaeth.

Mae Rhan 10 y cynnwys troseddau o beidio â chydymffurfio â’r Gorchymyn ac â’r gofynion a osodir yn unol â'r Gorchymyn.

Mae Rhan 11 yn ymdrin â dirymiadau a darpariaethau trosiannol.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae'r Gorchymyn hwn yn gweithredu rhwymedigaethau amrywiol yr UE mewn perthynas â chyfraith iechyd planhigion, felly bydd y Gorchymyn hwn yn rhan o gyfraith yr UE a gedwir ar ôl y diwrnod gadael.

Mae'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn nodi bod cyfraith iechyd planhigion yn faes polisi sy'n debygol o fod yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018. Felly, mae'r gyfraith sy'n dod o dan y Gorchymyn hwn yn debygol o fod yn faes o gyfraith yr UE sy'n cael ei rewi tra bod fframweithiau cyffredin yn cael eu rhoi ar waith.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

16 Hydref 2018